Anfeidrol a rhyfeddol

(Etholedigaeth gras)
Anfeidrol a rhyfeddol,
  Yw cariad rhad fy Nuw,
A redodd yn yr arfaeth,
  At ddynion gwael eu rhyw;
A'u dewis mewn Cyfryngwr,
  A'u rhoddi iddo'n hâd,
Ac yntau yn ymrwymo,
  Eu hadgymmodi â'i Dad.

Etholiad heb deilyngdod,
  I'w ganfod yn y dyn,
Yn tarddu foddlonrwydd
  Ewyllys Duw ei hun;
Tragwyddol ddoeth a grasol,
  Anghyfnewidiol yw,
Mae'r sylfaen a'r adeilad,
  I gyd o gynghor Duw.
Casgliad o dros Ddwy Fil o Hymnau
(Samuel Roberts) 1841

[Mesur: 7676D]

gwelir: Rhyfeddol byth rhyfeddol

(The Election of Grace)
Immeasurable and wonderful,
  Is the free love of my God,
Which ran in the purpose,
  Towards men of a poor condition;
And their choice in a Mediator,
  And their giving to him as seed,
And he binding himself,
  To reconcile them with his Father.

An election without worthiness,
  To be found in the man,
Issuing from the pleasure
  Of God's own will;
Eternal and gracious wisdom,
  Unchangeable it is,
The foundation and the building are
  All from the counsel of God.
tr. 2017 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~